Annwyl rieni / gwarchodwyr,
Mae’r adran Addysg Gorfforol a’r adran Gymraeg wedi ymuno i drefnu taith gerdded noddedig o’r Ysgol i lawr at Pier Y Garth, Bangor. Mae hyn yn rhan o wythnos Iechyd a Lles yr Ysgol ac yn gyfle i ddathlu diwedd cynllun gwaith ‘Yr Ardal’ yn Gymraeg. Mae hefyd yn gyfle i gasglu arian ar gyfer achosion da lleol, sef, Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd, Pier y Garth ac Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Er nad yw’r daith yn orfodol, hoffem i bawb gymryd rhan os yn bosib, Mi fydd yn ddiwrnod hwyliog a llesol at achos dda.
The Physical Education and Welsh departments have worked together to organise a sponsored walk from the school down to the Garth Pier, Bangor. The sponsored walk will take place during the school’s Health and Wellbeing week and an opportunity for pupils to celebrate completing their ‘local area’ themed work. The walk is also an opportunity for us to raise money for local causes, The Dewi Ward in Ysbyty Gwynedd, Pier y Garth and The National Eisteddfod coming to Gwynedd in 2023.
Although you can withdraw, we would encourage all pupils to join us on this fun and mindful activity for a good cause.
Social networks